Lleoliad:
Swyddfa’r Llywydd, 4ydd llawr - Tŷ Hywel
Dyddiad: Dydd Mawrth, 24 Ebrill 2018
Amser:
08.30 -
09.00
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Pwyllgor: |
Elin Jones AC, Llywydd (Cadeirydd) Julie James AC Paul Davies AC Rhun ap Iorwerth AC Gareth Bennett AC |
Staff y Pwyllgor: |
Siân Wilkins (Clerc) |
Eraill yn bresennol |
Ann Jones AC, Y Dirprwy Lywydd Manon Antoniazzi, Prif Weithredwr a Chlerc y Cynulliad Christopher Warner, Pennaeth Gwasanaeth y Pwyllgorau Polisi a Deddfwriaeth Gwion Evans, Pennaeth Swyddfa Breifat y Llywydd Rhuanedd Richards, Cynghorwr Polisi i'r Llywydd Helen Carey, Llywodraeth Cymru |
Derbyniodd y Pwyllgor gofnodion y cyfarfod ar gyfer eu cyhoeddi.
Cwestiynodd Paul Davies nifer y datganiadau ysgrifenedig diweddar. Roedd yn credu y dylai'r datganiad ynghylch yr 'Adolygiad Cyflenwad Tai Fforddiadwy', a gyhoeddwyd fel datganiad ysgrifenedig ddoe, fod wedi bod yn ddatganiad llafar. Cytunodd Arweinydd y Tŷ i edrych ar y mater ymhellach.
Dydd Mawrth
· Byddai pob pleidlais mewn perthynas â'r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) yn digwydd yn ystod trafodion Cyfnod 3.
· Cadarnhaodd Arweinydd y Tŷ y byddai'r pleidleisio ar bob eitem arall o fusnes yn cael ei gynnal cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.
· Dywedodd y Llywydd wrth y Rheolwyr Busnes y byddai egwyl o 10 munud cyn i drafodion Cyfnod 3 ddechrau.
Dydd Mercher
· Byddai'r Cyfnod Pleidleisio yn cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer.
Nododd y Pwyllgor Busnes amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
Tynnodd Arweinydd y Tŷ sylw'r Rheolwyr Busnes at y ffaith y bydd hi'n ateb y Cwestiynau i'r Prif Weinidog ar 1 Mai oherwydd y bydd y Prif Weinidog dramor.
Penderfynodd y Pwyllgor Busnes ar drefn busnes y Cynulliad a chytunodd i gynnwys yr eitemau o fusnes a ganlyn ar yr amserlen:
Dydd Mercher 2 Mai 2018 –
· Dadl ar Adroddiad y Pwyllgor Safonau Ymddygiad 01-18 i'r Cynulliad o dan Reol Sefydlog 22.9 (15 munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid
Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60
munud)–
gohiriwyd tan 9 Mai
Dydd Mercher 9 Mai 2018 -
· Amser a neilltuwyd i Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig (60 munud)
·
Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru
(60 munud) –
gohiriwyd tan 16 Mai
Dydd Mercher 16 Mai 2018 –
· Cwestiynau i Gomisiwn y Cynulliad (30 munud)
· Dadl ar Gynnig Deddfwriaethol gan Aelod (30 munud)
· Dadl Aelodau o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dewisodd Rheolwyr Busnes y cynnig canlynol ar gyfer dadl ar 2 Mai 2018
NNDM6695
Jane Hutt
Jenny Rathbone
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru
1. Yn nodi gwaith ymchwil gan Plan International UK ar dlodi misglwyf a stigma, sy'n amcangyfrif bod un ym mhob 10 o ferched yn y DU wedi methu â fforddio cynhyrchion misglwyf.
2. Yn croesawu'r camau y mae sefydliadau yng Nghymru yn eu cymryd, gan gynnwys Periods in Poverty, Wings Cymru, The Red Box Project, Ymddiriedolaeth Trussell ac eraill, i fynd i'r afael â mater hwn.
3. Yn nodi'r adroddiad terfynol gan weithgor craffu cyngor Rhondda Cynon Taf a sefydlwyd i ddelio â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion.
4. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) ystyried ymchwil presennol a newydd ar effaith bosibl tlodi misglwyf a stigma ar ddysgu;
b) ystyried galwadau i wella addysg ar y pwnc a chynnig cynhyrchion misglwyf am ddim mewn sefydliadau addysg; ac
c) nodi ffyrdd i sicrhau bod cynhyrchion misglwyf ar gael i fanciau bwyd Cymru.
Plan International UK - 1 in 10 girls have been unable to afford sanitary wear (Saesneg yn unig)
Cyngor Rhondda Cynon Taf - Adroddiad terfynol gan y gweithgor craffu sy’n ymdrin â darparu cynhyrchion misglwyf am ddim mewn ysgolion (Saesneg yn unig)
Cefnogir gan:
John Griffiths
Julie Morgan
Jack Sargeant
Dawn Bowden
Siân Gwenllian
Jayne Bryant
Vikki Howells
Simon Thomas
Mike Hedges
Mick Antoniw
David Rees
Leanne Wood
· Cytunodd Rheolwyr Busnes i gynnal y Ddadl Aelodau nesaf ar 16 Mai 2018, a dewiswyd y cynnig a ganlyn:
NNDM6682
Hefin David
Rhun ap Iorwerth
Dawn Bowden
Angela Burns
Mark Isherwood
Mandy Jones
Cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru:
1. Yn croesawu adroddiad diweddar gan Bowel Cancer UK a Beating Bowel Cancer sy'n tynnu sylw at ddiagnosis cynnar a'i uchelgais o wella cyfraddau goroesi pobl y mae canser y coluddyn yn effeithio arnynt.
2. Yn cydnabod cyfraniad dewr cleifion canser y coluddyn yng Nghymru o ran codi ymwybyddiaeth o'r clefyd a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol o ran gwella canlyniadau yn sgil galw cynyddol am ddiagnosis, o fewn cyfyngiadau'r gwasanaeth presennol.
3. Yn cydnabod mai canser y coluddyn yw'r canser sy'n lladd yr ail nifer fwyaf o bobl yng Nghymru ac yn cydnabod yr effaith a gaiff diagnosis cynnar ar gyfraddau goroesi a phwysigrwydd annog y cyhoedd i fanteisio ar gyfleoedd i sgrinio eu coluddion gan fod y niferoedd sy'n cael eu sgrinio wedi gostwng 1 y cant yn y 12 mis diwethaf.
4. Yn croesawu cyflwyno prawf imiwnogemegol ysgarthion (FIT) symlach a mwy cywir fel rhan o'r rhaglen profi'r coluddyn a'r potensial i wella cyfraddau goroesi canser y coluddyn.
5. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i ddarparu rhaglen sgrinio canser y coluddyn y gall gyrraedd ei photensial llawn ymdrin â materion o amgylch:
a) y trothwy arfaethedig ar gyfer prawf imiwnogemegol ysgarthion i'w gyflwyno yn 2019;
b) heriau sy'n bodoli o fewn gwasanaethau endosgopi a phatholeg i sicrhau y gellir cyflwyno prawf imiwnogemegol ysgarthion yn y ffordd orau bosibl;
c) angen i leihau'r oedran sgrinio cymwys o 60 i 50.
Spotlight on Bowel Cancer in Wales - Early Diagnosis Saves Lives (Saesneg yn unig)
Cefnogir gan
Neil Hamilton
Cytunodd Rheolwyr Busnes â'r cais.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes y byddai'n ddefnyddiol crynhoi a chyhoeddi'r canllawiau.
Bydd yr Ysgrifenyddiaeth yn cyflwyno papur sy'n adolygu ac yn diweddaru'r holl ganllawiau cyfredol ac yn drafftio canllawiau newydd yn ôl yr angen.
Cytunodd y Rheolwyr Busnes i ymgynghori â'u grwpiau, yn arbennig er mwyn ystyried a ddylid adolygu cyfansoddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn sgil cyflwyno'r offeryn statudol mewn perthynas â Brexit. Cytunodd y Rheolwyr Busnes y dylid ystyried hyn cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch adolygu'r Rheolau Sefydlog.